Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Lleoliad Allanol - Lleoliad Allanol

Dyddiad: Dydd Llun, 4 Mawrth 2019

Amser: 10.50 - 13.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5270


Wrecsam

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Jenny Rathbone AC

Llyr Gruffydd AC

Tystion:

Mark Polin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gary Doherty, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Andy Roach, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Deborah Carter, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Swyddfa Archwilio Cymru:

Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dave Thomas

Andrew Doughton

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor ac i Ganolfan Catrin Finch, Wrecsam.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC, Vikki Howells AC ac Adam Price AC. Roedd Llyr Gruffydd yn bresennol fel dirprwy.

2       Papur(au) i'w nodi

2.2 Cafodd y papurau eu nodi.

2.1   Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Hyn a Ddysgwyd: Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru (13 Chwefror 2019)

2.2   Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Hyn a Ddysgwyd: Gwybodaeth ychwanegol gan Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

2.3   Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Hyn a Ddysgwyd: Gwybodaeth Ychwanegol gan BIPBC am wariant ar staff asiantaeth yn Is-adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

3       Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Hyn a Ddysgwyd: Sesiwn Dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

1.3        Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Mark Polin, Cadeirydd; Gary Doherty, Prif Weithredwr; Andy Roach, Cyfarwyddwr Cyswllt Sicrhau Ansawdd, a Deborah Carter, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel rhan o'r ymchwiliad i’r hyn a ddysgwyd o'r Adolygiad Llywodraethu o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

1.4        Cytunodd Gary Doherty i gadarnhau union nifer y meddygfeydd sy'n cael eu rheoli ar hyn o bryd gan y Bwrdd Iechyd, ynghyd â'u lleoliad.

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

5       Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Yr Hyn a Ddysgwyd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.